Isaiah 3

Barn ar Jerwsalem a Jwda

1Edrychwch!

Mae'r Meistr, yr Arglwydd holl-bwerus
yn mynd i gymryd o Jerwsalem a Jwda
bopeth sy'n eu cynnal a'u cadw nhw:
bwyd a dŵr,
2arwyr a milwyr dewr;
barnwr a phroffwyd,
yr un sy'n dewino a'r arweinydd;
3grŵp-gapten a swyddog,
strategydd a hudwr medrus,
a'r un sy'n sibrwd swynau.
4Bydda i'n rhoi bechgyn i lywodraethu arnyn nhw,
a bwlis creulon i'w rheoli nhw.
5Bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd –
un yn erbyn y llall.
Bydd pobl ifanc yn ymosod ar henoed,
a phobl gyffredin yn ymosod ar y bonheddig.
6Bydd dyn yn gafael yn ei gyfaill
yn nhŷ ei dad, a dweud:
“Mae gen ti got –
bydd di'n feistr arnon ni.
Cei di wneud rhywbeth o'r llanast ma,”
7Ond bydd y llall yn protestio, ac yn dweud,
“Alla i ddim gwella'ch briwiau chi,
does gen i ddim bwyd yn y tŷ
a does gen i ddim côt chwaith.
Peidiwch gwneud fi yn feistr arnoch chi!”
8Mae Jerwsalem yn gwegian,
a Jwda wedi syrthio,
am ddweud a gwneud pethau
yn erbyn yr Arglwydd,
a herio ei fawredd.
9Mae eu ffafriaeth wrth farnu a yn tystio yn eu herbyn;
maen nhw'n arddangos eu pechod fel Sodom,
heb geisio cuddio dim!
Gwae nhw! Maen nhw wedi
dod â dinistr arnyn nhw eu hunain.

10Dywed:

Bydd hi'n dda ar y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn;
byddan nhw'n cael bwyta ffrwyth eu gweithredoedd.
11Ond gwae y rhai sy'n gwneud drwg,
bydd pethau'n ddrwg arnyn nhw;
byddan nhw'n cael blas o'r hyn wnaethon nhw i bobl eraill.
12Bydd plant yn feistri ar fy mhobl,
a merched yn eu rheoli.
O fy mhobl!
mae dy arweinwyr yn dy gamarwain;
maen nhw wedi dy ddrysu.

Duw yn barnu

13Mae'r Arglwydd yn sefyll i ddadlau ei achos,
mae'n codi ar ei draed i farnu'r bobloedd.
14Mae'r Arglwydd yn dod â'r cyhuddiad yma
yn erbyn arweinwyr a thywysogion ei bobl:
“Chi ydy'r rhai sydd wedi dinistrio'r winllan!
3:14 winllan darlun o wlad Israel (gw. 5:1-7).

Mae'r hyn sydd wedi ei ddwyn oddi ar y tlawd
yn eich tai chi.
15Sut allech chi feiddio sathru fy mhobl i,
a gorthrymu'r rhai tlawd?”
—meddai'r Meistr, yr Arglwydd holl-bwerus.

Merched Jerwsalem

16Yna dwedodd yr Arglwydd:

“Mae merched Seion mor falch,
yn dal eu pennau i fyny,
yn fflyrtian â'u llygaid
ac yn cerdded gyda chamau bach awgrymog,
a'u tlysau ar eu traed yn tincian wrth iddyn nhw fynd”
17Felly bydd y Meistr yn gwneud i rash
ddod ar bennau merched Seion.
Bydd yr Arglwydd yn siafio eu talcennau nhw.

18Bryd hynny, bydd yr Arglwydd yn cael gwared â'u tlysau nhw – y tlysau traed, y rhubanau, yr addurniadau siâp cilgant, 19y clustdlysau, y breichledau, a'r fêl; 20y dïadem, y cadwyni, a'r sash; y ffiolau persawr a'r swynoglau; 21y sêl-fodrwy a'r fodrwy drwyn; 22y dillad hardd, y mentyll, a'r siôl; y pyrsiau, 23y gwisgoedd sidan, a'r dillad lliain; y twrban a'r glogyn.

24Wedyn –

yn lle persawr bydd pydredd;
yn lle'r rhwymyn bydd rhaff;
yn lle steil gwallt bydd moelni;
yn lle mantell wedi ei brodio bydd sachliain.
Ie, cywilydd yn lle harddwch.
25Bydd dy ddynion yn cael eu lladd gan y cleddyf,
a'th filwyr yn syrthio yn y frwydr.
26Bydd galaru wrth giatiau'r ddinas –
bydd wedi ei gwagio
ac yn eistedd ar lawr.
Copyright information for CYM